top of page
Olwen 1 bach.jpg
Olwen Thomas

Rwy'n gwneud cerameg porslen gyfoes wedi'i hysbrydoli gan fy hunaniaeth Gymreig a blancedi Cymreig eiconig. Mae fy ystod 'Hen Wlad Fy Mamau' yn cyfeirio at batrymau lliwgar y tecstilau hardd hyn; maent hefyd yn dathlu rôl menywod yn ein hanes a'r traddodiad o gasglu cerameg i addurno dreseri.

Rwy'n creu'r llestr â llaw sy'n gwneud pob darn yn unigryw.  Gwneir y patrymau gyda chlai hylif pigmentog ar slab plastr, yna mae porslen yn cael ei dywallt drosto. Felly, mae'r patrwm yn cael ei integreiddio i'r clai. Ar ôl ei sychu, mae'r clai porslen addurnedig yn cael ei godi i ffwrdd, ac yna mae'r siapiau'n cael eu torri allan a'u plygu, fel blanced, i ffurfio'r llestr.​​

 

www.olwenthomas.com        

  • Facebook
  • YouTube
  • Instagram
bottom of page